Mae ein Tîm Ystadau Cymunedol wedi bod yn gweithio’n galed i wneud eich cymunedau a’ch ardaloedd yn lanach ac yn fwy disglair fel rhan o’n hygyrch tipio’n anghyfreithlon #CaruEichStryd.
Cynhaliwyd diwrnodau amnest sgipiau ym Mhorthcawl i’ch helpu i gael gwared ar eich eitemau mawr diangen ac mae’r canlyniadau wedi bod yn anhygoel. Yn ogystal â helpu i gael gwared ar bethau diangen, roedd hefyd yn gyfle perffaith i sgwrsio â chi am waredu gwastraff mewn ffordd gyfrifol. Roedd gweld eich cymuned yn dod ynghyd a chwarae rôl weithredol mewn cadw ein cymdogaeth yn hardd yn wych.
Roeddech chi’n llawn brwdfrydedd o ran tacluso a, gyda’n gilydd, llenwyd dau sgip a phedair fan ar draws dau leoliad! Ond nid oedd yn ymwneud â chael gwared ar eitemau diangen yn unig. Hefyd, cynhaliwyd sgyrsiau gwych gyda chi ynghylch sut gallwn ni wella eich ardal leol.
Un o’ch ceisiadau mwyaf poblogaidd oedd am fwy o welyâu blodau a meinciau i fwynhau’r awyr agored yn fwy cyfforddus. Bydd ein Tîm Ystadau Cymunedol yn gwireddu’r syniadau hyn dros yr wythnosau nesaf.