Yn dilyn yr ymosodiad treisgar yn Southport lle collodd tri phlentyn ifanc eu bywydau, lledwyd twyllwybodaeth a chelwyddau i annog casineb hil a thrais yn erbyn pobl Moslemaidd a phawb nad oeddent yn edrych fel eu bod yn hanu o dreftadaeth gwyn neu Ewropeaidd.

Mewn ymateb i’r terfysgoedd a’r ymosodiadau treisgar, rydyn ni yn Cymoedd i’r Arfordir a Llanw wedi llofnodi’r datganiad undod i’w wneud yn hollol glir fod gennym ymagwedd dim goddefgarwch o ran Islamoffobia, a phob math arall o gasineb ac anffafriaeth sy’n targeu unrhyw hil neu grefydd.

Mae diogelwch ein cwsmeriaid a’n cydweithwyr wrth iddynt symud trwy fywyd yn hawl hanfodol a byddwn yn gwneud popeth y gallwn i sicrhau hyn.

Os ydych chi wedi sylwi ar drosedd gasineb neu ddioddef ohoni, gallwch ei adrodd i Heddlu De Cymru yma: adrodd am drosedd gasineb. Gallwch hefyd ffonio 999 mewn argyfwng neu 101 i adrodd am drosedd nad yw’n achos o argyfwng.

Os yw trosedd gasineb wedi effeithio arnoch chi a hoffech chi gael rhagor o wybodaeth a chymorth ynghylch yr hyn i’w wneud nesaf, ffoniwch staff a gwirfoddolwyr hyfforddedig Cymorth i Ddioddefwyr yma: sgwrs fyw Cymorth i Ddioddefwyr.

Gallwch hefyd ffonio llinell gymorth Cymorth i Ddioddefwyr unrhyw bryd ar 0808 1689 111, hyd yn oed os nad ydych chi’n hyderus neu’n gyffroddus yn siarad Saesneg. Byddant yn dychwelyd eich galwad trwy gymorth cyfieithydd ar y pryd cyn gynted â phosibl.

Dyma’r datganiad llawn rydym wedi’i arwyddo, a luniwyd gan Ganolfan Materion Rhyngwladol Cymru: Datganiad cydsefyll a chydberthynas Cymru.