Yn ogystal â bod yn ffordd wych o gymudo, gall beicio fod yn ffordd o gael rhyddid ac antur i lawer o bobl megis ein cydweithiwr, Chris George, sy’n feiciwr angerddol.
Fis nesaf, bydd Chris yn mynd i’r afael ag un o’r llwybrau pell mwyaf heriol ar y Rhwdwaith Beicio Cenedlaethol sef Lôn Las Cymru. Mae’r llwybr anhygoel hwn yn ymestyn dros 253 o filltiroedd o Gaergybi yn y gogledd i Gas-gwent neu Gaerdydd yn y de. Bydd e’n dechrau’r daith ar 29ain Awst gan fwriadu gorffen y daith ymhen chwe niwrnod. Bydd yn her lethol ond buddiol iddo gan gynnwys tirweddau godidog a thir amrywiol.
Er bod y daith hon yn her bersonol i Chris, hoffai hefyd achub ar y cyfle i gefnogi achos gwych drwy godi arian ar gyfer Gofalwyr Pen-y-bont ar Ogwr, ein helusen y flwyddyn. Mae Gofalwyr Pen-y-bont ar Ogwr yn rhoi cymorth ac adnoddau hanfodol i ofalwyr di-dâl yn ein cymuned ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Bydd eich cyfranogwyr yn gwneud gwahaniaeth go iawn i fywydau’r rhai sy’n cael budd o’u gwasanaethau. Yn ogystal ag ysbrydoli Chris trwy’r milltiroedd heriol, bydd hefyd yn cael effaith ystyrlon ar y rhai y mae Gofalwyr Pen-y-bont ar Ogwr yn eu cefnogi.
I noddi Chris, faint bynnag yw’r swm, cliciwch yma: Noddwch Chris ar ran Gofalwyr Pen-y-bont ar Ogwr.