Bydd Choral Coasters, ein côr y gweithle, yn perfformio yng Nghanolfan Siopa Rhiw ar ddydd Iau 29ain Awst 2024. Byddwn ni’n dechrau ein perfformiad, a fydd yn para am awr, am 12.45pm a byddem wrth ein
boddau’n eich gweld chi yno!
Mae ein côr bach ond brwdfrydig yn cynnwys naw cydweithiwr sy’n dwlu ar ddod ynghyd i rannu cerddoriaeth â’r gymuned. Y tro hwn, rydym yn hynod gyffrous oherwydd bydd pob nodyn rydym yn ei ganu yn cefnogi achos sy’n agos at ein calonnau sef codi arian ar gyfer Canolfan Gofalwyr Pen-y-
bont ar Ogwr, ein helusen y flwyddyn.
Rydym yn credu mewn mwy na busnes yn unig, rydym yn credu mewn cael effaith gadarnhaol ar y gymuned. Mae cymryd rhan yn y côr yn un enghraifft o sut rydym yn creu gweithle hwyl, cefnogol lle mae pobl yn dod ynghyd, nid yn unig fel cydweithwyr, ond fel ffrindiau sy’n rhannu’r un angerddau.

Byddem wrth ein boddau pe baech chi’n galw heibio, yn mwynhau cerddoriaeth ac, os cewch chi eich ysbrydoli, roi rhodd i gefnogi Canolfan Gofalwyr Pen-y-bont ar Ogwr. Mae pob dim yn helpu ond ein prif nod yw goleuo eich diwrnod trwy gerddoriaeth.
Felly, os ydych chi ym Mhen-y-bont ar Ogwr ar 29ain Awst, beth am ddod draw i Ganolfan Siopa Rhiw i wylio ein perfformiad? Yn ogystal â chefnogi achos gwych byddwch chi hefyd yn cael cipolwg ar ddiwylliant cyfeillgar, bywiog sy’n gwneud ein cwmni yn lle gwych i weithio.
Edrychwn ymlaen at eich gweld chi yno a diolch o flaen llaw am eich cefnogaeth!