Yn ddiweddar, rydym wedi dathlu trosglwyddo’r allweddi ar gyfer eich cartefi newydd hardd ym Mhorthcawl.

Mae’r datblygiad newydd hwn o 20 o gartrefi ar Heol yr Hen Orsaf, Tŷ’r Orsaf, yn cynnwys 17 cartref un ystafell wely a thri chartref dwy ystafell wely.

Mae’r bloc o 20 o fflatiau hwn wedi cael ei ddylunio’n feddylgar ac mae cartrefi hygyrch ar gyfer pobl dros 55 oed ar y llawr gwaelod a golygfa o’r môr ar y lloriau uchaf. Mae’r datblygiad hefyd yn cynnwys paneli solar er mwyn hyrwyddo cynaliadwyedd a gostwng costau ynni i chi.

I ddathlu’r achlysur hwn a sicrhau eich bod wedi cael croeso cynnes, trefnwyd i fan coffi a theisennau fod yno. Rhoddodd hyn danteithion hyfryd gan hefyd greu awyrgylch cyfeillgar a helpodd y cymdogion i ddod i adnabod ei gilydd yn ystod prysurdeb diwrnod symud cartref.

Yn ystod y digwyddiad, cawsom y pleser o siarad â llawer ohonoch chi. Rhanodd un dyn ei deimladau am ei fflat, dywedodd:

“Rhagorol, rwy’n dwlu arno. Mae’n well na fy mhabell, yn sicr”.

Hefyd, siaradon ni â phâr a oedd â dagrau yn eu llygaid wrth fynegi eu diolchgarwch i’w Partner Tai Cymunedol, Louise Morris, a oedd wedi bod yn rhan allweddol o’u helpu i fachu eu cartref. Dywedon nhw: 

“Roeddem yn gwybod yn syth ar ôl cerdded i mewn mai hwn oedd ein cartref oes, rydyn ni’n dwlu arno”.