Yn ddiweddar, rydym wedi cael y pleser o ddyrannu chwe chartref newydd i chwe ohonoch chi ac mae gan bob un stori unigryw sy’n dangos pwysigrwydd ein gwaith.
Mae un ohonoch chi eisoes wedi cysylltu â ni i ddweud diolch ac i rannu pa mor hapus ydych chi, gan ddweud,
“Rwy’n dwlu ar y fflat a byddaf yn symud i mewn yr wythnos nesaf. Nid ydych chi’n gwybod pa mor bwysig yw hyn i mi a byddaf yn eich dyled am byth. Diolch yn fawr iawn.”
Mae’r cartrefi hyn yn rhan o ddatblygiad newydd o 24 o fflatiau un ystafell wely ar draws tri bloc yn yr hen glwb RAOB ar Heol y Groes, Pencoed. Wedi’u hadeiladu yn unol â safonau A y Dystysgrif Perfformiad Ynni, mae’r fflatiau hyn yn hynod o effeithlon yn thermol, gan ddarparu amgylchedd byw cyfforddus a chynaliadwy i chi.
Cafodd y prosiect hwn ei ddatblygu mewn partneriaeth â Grŵp Castell sydd wedi’i leoli yn Abertawe ac sy’n arbenigwyr mewn tai fforddiadwy o safon uchel sy’n gynaliadwy o ran ynni.