Yn gynnar eleni, cynhaliwyd digwyddiad cymunedol i rannu ein cynlluniau am y 35 o gartrefi newydd rydym yn eu hadeiladu ar hen safle cartref gofal Glan Yr Afon gyda chi.

Roedd eich ymatebion yn gadarnhaol iawn a dywedodd llawer fod angen buddsoddiad yn yr ardal am nad oedd wedi profl llawer o gariad ers i’r cartref gofal gau. Ymhlith yr adborth a dderbyniwyd roedd:

“Rwy’n ei hoffi, syniad cadarnhaol, gwych ar gyfer yr ardal.”

“Nid yw’r datblygiad yn edrych yn rhy wael, bydd yn anghyfleus pan fydd y gwaith yn dechrau oherwydd y llwch am ein bod eisoes wedi profi llawer o waith adeiladu yn yr ardal ond bydd y canlyniad yn wych.”

Wedi’u lleoli ar Heol yr Ysgol, gyferbyn â Coleg Cymunedol y Dderwen(CCYD) a drws nesaf i Hamdden Halo, rydym yn gweithio mewn partneriaeth â Pendragon Design and Build i ddatblygu:

  • 24 o fflatiau un ystafell wely
  • 5 cartref dwy ystafell wely
  • 4 cartref tair ystafell wely
  • 2 gartref pedair ystafell wely

Mae’r tîm yn Pendragon eisoes wedi dymchwel yr hen gartref gofal ac mae’r gwaith ar y datblygiad wedi dechrau.

Bydd y cartrefi newydd yn barod i chi ym mis Mawrth 2026.