Fel rhan o’n straegaeth barhaus i ddatgarboneiddio a gwneud eich cartrefi yn fwy cynaliadwy ac ynni effeithlon, rydym yn symud eich cartrefi o gyflenwad nwy i gyflenwad trydan. 

Bydd hyn yn golygu:

  • Gosod silindrau dŵr poeth o ffynhonnell aer i wresogi dŵr gan ddefnyddio’r aer allanol a lleihau ein dibynadwyedd ar wresogyddion nwy traddodiadol.
  • Gan ddefnyddio pŵer yr haul, rydym yn gosod paneli solar sy’n cynnwys batris a systemau gwrthdroi a fydd yn cynhyrchu trydan sy’n gallu cael ei storio a’i ddefnyddio hyd yn oed pan nad yw’r haul yn tywynnu gan sicrhau cyflenwad sefydlog o ynni adnewyddadwy.
  • Bydd gwresogyddion isgoch cyfoes yn darparu gwres wrth fod yn fwy ynni effeithlon ac yn fwy ecogyfeillgar o’u cymharu â gwresogyddion nwy traddodiadol.

Mae’r prosiect hwn yn gam tuag at wneud eich cartrefi yn wyrddach ac yn fwy ynni effeithlon. Trwy leihau eich dibynadwyedd ar nwy a defnyddio ffynonellau ynni adnewyddadwy, nid yn unig y caiff allyriadau carbon eu gostwng ond bydd hefyd yn creu amgylchedd byw mwy cynaliadwy.