Cilgant y Jiwbilî yn gweithredu

Published on:

Rydym yn gwybod pa mor bwysig yw lleoedd diogel a hapus yn ogystal â chartrefi. Felly, lle bynnag y gallwn ni, rydym yn gweithredu i fynd i’r afael â materion gwastraff ac ymddygiad gwrth-gymdeithasol yn ein cymunedau.


Un o’n cymunedau a oedd yn wynebu heriau sylweddol oedd Cilgant y Jiwbilî, sef ystâd yn Sarn sydd â 143 o gartrefi a phroblemau parhaus o ran iechyd meddwl a lles trigolion ynghyd â thipio anghyfreithlon a materion tanau bwriadol. 


Felly, roeddem wedi gweithredu gan annog trigolion lleol a hartneriaid allweddol i greu rhywberth arbennig iawn – prosiect sydd wedi cael effaith gadarnhaol hirdymor ar y gymuned.


Dyma gipolwg ar yr ymdrechion anhygoel a oedd yn rhan o brosiect Cilgant y Jiwbilî yn Gweithredu:

  • Cynhaliwyd nifer o ddigwyddiadau i ymgysylltu â’r gymuned leol a meithrin partneriaethau ystyrlon â sefydliadau lleol.
  • Trefnwyd diwrnodau sgipiau a digwyddiadau casglu sbwriel i lanhau’r ardal ac i annog cyfranogiad yn yn gymuned, gan gynnwys plant ysgol, i greu ymdeimlad o berchnogaeth a balchder yn y gymuned.
  • Gyda’n gilydd, plannwyd coed a chrëwyd gwelyau blodau uchel gan gynnwys peillwyr brodorol sydd wedi bod yn rhan bwysig o drawsnewid yr amgylchedd lleol.

Mae canlyniadau’r gweithredoedd hyn wedi bod yn anhygoel:

  • Bellach, mae trigolion yn defnyddio ac yn mwynhau’r ardaloedd agored sydd wedi’u hadnewyddu.
  • Mae’r gymuned yn teimlo’n fwy diogel ac mae perthnasoedd newydd wedi cael eu creu ymhlith y cymdogion.
  • Profwyd gostyngiad sylweddol o ran sbwriel a thipio anghyfreithlon gan gyfrannu at amgylchedd glanach.
  • Mae ein gweithredoedd ar y cyd wedi dileu achosion o danau bwriadol.
  • Rydym wedi sefydlu grwpiau newydd, gan sicrhau cymorth a gweithgareddau parhaus yn y gymuned.


Canlyniad anhygoel arall yw bod y prosiect hwn wedi cael ei gydnabod gan gompendiwm ymarfer gorau y Sefydliad Tai Siartredig gan amlygu’r llwyddiant a’r newid cadarnhaol y mae wedi’i gael yng Nghilgant y Jiwbilî.


Diolch i bawb a gyfrannodd at brosiect ‘Cilgant y Jiwbilî yn Gweithredu’.