Wrth i ni symud trwy’r tymor torri glaswellt, hoffem roi diweddariad i chi ar ein gwasanaethau a mynd i’r afael â rhai o’r heriau presennol.

Ardaloedd Agored
Mae ein gwasanaeth torri glaswellt ar gyfer ardaloedd agored yn cynnwys 13 o doriadau y tymor, rhwng mis Ebrill a mis Hydref. Sylwer, nad ydym yn gwaredu’r toriadau glaswellt. Mae ein timau ymroddedig yn gweithio’n ddiwyd i sicrhau bod ein hardaloedd agored wedi’u cynnal a’u cadw ac yn hygyrch i bawb eu mwynhau.

Cynlluniau Gwarchodol
Ar gyfer ein cynlluniau gwarchodol, rydym hefyd yn cynnig 13 o doriadau y flwyddyn. Ein nod yw cynnal amgylchedd taclus sy’n gwella ansawdd bywyd ar gyfer ein preswylwyr.

Heriau Presennol
Yn anffodus, mae’r ardaloedd canlynol ar ei hôl hi o ran yr amserlen o
ganlyniad i gyflwr tir heriol:

  • Porthcawl
  • Tref Pen-y-bont ar Ogwr
  • Pencoed
  • Corneli
  • Wildmill
  • Bryntirion/Cefn Glas

Mae’r tir yn yr ardaloedd hyn yn wlyb iawn gan achosi i olwynion y peiriant torri glaswellt suddo. I fynd i’r afael â’r mater hwn, bydd ein contractwyr yn rhoi timau ychwanegol ar waith gan ddechrau ar 8fed Gorffennaf er mwyn dal i fyny ar yr gwaith.

Diolch am eich dealltwriaeth a’ch cefnogaeth wrth i ni weithio i gynnal ein safonau uchel a chadw ein hardaloedd cymunedol yn daclus.