Rydyn ni’n deall pa mor bwysig yw treulio amser gyda chi a gwrando ar y ffyrdd rydych chi’n dymuno cael eich cefnogi a’ch cynorthwyo. Dyna pam rydym wrth ein boddau i ddweud wrthych chi ein bod wedi ailffocysu ein Tîm Tai yn ddiweddar er mwyn gwella ein gwasanaethau.


Tîm Tai Cymunedol Mwy a Gwell
Rydym wedi cynyddu maint ein Tîm Tai Cymunedol er mwyn i ni ddeall eich anghenion a chynnig cymorth wedi’i deilwra. Rydym yn hyderus y bydd hyn y cryfhau ein perthynas gyda chi.


O Swyddogion Gweinyddol i Gynorthwywyr Tai
Bydd y newid hwn yn golygu y bydd Cynorthwywyr Tai yn gallu ymweld â chi yn eich cartref. Nod y cyfarfodydd hyn yw rhoi mwy o gymorth effeithiol ac ymatebol er mwyn bodloni eich anghenion tai.


Integreiddio ein Tîm Diogelwch yn y Cartref a’n Tîm Partneriaid Tai
Bydd yr integreiddio hwn yn ein galluogi i gydlynu ein hymdrechion yn well a sicrhau bod yr holl safonau diogelwch yn cael eu bodloni’n gyson ar draws pob maes tai. 


Rhestr Ddiweddaraf o Ardaloedd a Rolau
Isod, ceir y rhestr ddiweddaraf o ran pwy yw’ch Partner Tai Cymunedol newydd yn seiliedig ar ble rydych chi’n bwy. Trwy gael cipolwg, bydd yn eich helpu i ddeall pwy yw’ch swyddog cymorth tai wrth symud ymlaen.


Os oes gennych chi gwestiynau, ffoniwch ni ar 0300 123 2100 neu e-bostiwch ein swyddogion yr Hyb: TheHub@v2c.org.uk.