Dathlu Wythnos Gofalwyr: Gadewch i Ni Gefnogi Canolfan Gofalwyr Pen-y-bont ar Ogwr Gyda’n Gilydd

Published on:

Mae’r wythnos hon yn Wythnos Gofalwyr sef wythnos ymroddedig i gydnabod a dathlu cyfraniadau gofalwyr. Rydym yn achub ar y cyfle gwych hwn i daflu golau ar ein Helusen y Flwyddyn, Canolfan Gofalwyr Pen-y-bont ar Ogwr ac i gefnogi eu gwaith anhygoel.

Yn ôl ym mis Chwefror, ymwelwyd â Chanolfan Gofalwyr Pen-y-bont ar Ogwr lle cafwyd cyfle i gwrdd â’r aelodau staff ymroddedig a’r gofalwyr gwych sy’n cael budd o’u gwasanaethau. Ers hynny, rydym wedi ffarwelio â Helen Pitt, sydd wedi ymddeol fel Prif Swyddog Gweithredol, ac rydym wedi croesawu Sarah Jarvis fel y Prif Swyddog Gweithredol newydd. Mae’r ganolfan hefyd wedi symud i leoliad newydd yng Nghefn Cribwr.

Digwyddiadau Wythnos Gofalwyr

Yn ystod mis Mehefin, mae Canolfan Gofalwyr Pen-y-bont ar Ogwr wedi cynllunio cyfres o ddigwyddiadau i ddathlu Wythnos Gofalwyr a byddwn yn ymuno â’r rhain i ledu’r gair am y cymorth sydd ar gael i’n cwsmeriaid. Dyma rai o’r gweithgareddau y byddwn yn bresennol ynddynt:

  • Dydd Mercher 12fed Mehefin: Sesiynau lles (amser i’w gadarnhau) a’r caffi cymunedol wythnosol rhwng 12pm hanner dydd a 2pm yng Nghefn Cribwr.
  • Dydd Iau 13eg Mehefin: Grŵp rhieni sy’n ofalwyr gyda Davina.
  • Dydd Llun 17eg Mehefin: Digwyddiad Agoriad Swyddogol mewn cydweithrediad â Gŵyl Cynffig a’r Pîl. Mae hwn yn gyfle perffaith i weld eu lleoliad newydd, rhyngweithio â phobl
    eraill ac ymgysylltu â’r gymuned.

Os hoffech chi godi arian ar gyfer Canolfan Gofalwyr Pen-y-bont ar Ogwr ond mae angen cymorth arnoch chi, cysylltwch â ni i weld a oes modd i ni eich cynorthwyo chi.