Mae Cymoedd i’r Arfordir wedi ffarwelio’n hoff â Chadeirydd y Bwrdd, Anthony Whittaker, sydd newydd ymddeol.
Mae Anthony wedi camu i lawr o’i rôl ar ôl pum mlynedd wrth y llyw – yn ystod y cyfnod hwn mae wedi helpu Cymoedd i’r Arfordir i fynd o nerth i nerth.
Ymunodd Anthony â Chymoedd i’r Arfordir yn 2019 ar ôl gyrfa 40 mlynedd yn y maes tai gydag awdurdodau lleol a Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (RSLs), a’r 23 mlynedd olaf o’r rhain yn Brif Weithredwr United Welsh.
Yn ystod ei ddeiliadaeth fel Cadeirydd, mae Anthony wedi adeiladu perthnasoedd cryf gyda phartneriaid a rhanddeiliaid i hyrwyddo cyflawni blaenoriaethau strategol y sefydliad ‒ yn cynnwys ei raglen uchelgeisiol i ddatblygu 1,000 o gartrefi newydd dros 10 mlynedd a mynd i’r afael â digartrefedd.
Mae hefyd wedi helpu’r busnes i weithredu yn ystod blynyddoedd heriol y pandemig Covid a’r adferiad; i ddygymod â’r pwysau rheoliadol; ac i sefydlu’r is-gwmni o dan berchnogaeth lwyr, Llanw, sy’n dod ag ymagwedd ffres at wasanaethau atgyweirio a chynnal a chadw.
Mae Prif Weithredwr y Grŵp, Joanne Oak, wedi talu teyrnged iddo wrth iddo gynnull Bwrdd Cymoedd i’r Arfordir am y tro olaf a throsglwyddo’r awenau i’r Cadeirydd newydd, Amanda Davies.
“Rydw i eisiau manteisio ar y cyfle hwn i ddiolch o galon i Anthony am yr holl bethau mae wedi eu cyflawni dros Gymoedd i’r Arfordir yn ystod ei ddeiliadaeth fel Cadeirydd yn ystod y pum mlynedd diwethaf. Mae Anthony wedi bod gyda ni ac wedi rhannu ei ddoethineb a’i brofiad yn ystod argyfwng y blynyddoedd diweddar sydd wedi bod yn heriol iawn i’r busnes,” meddai.
“Roedd ei arweiniad o’r pwys mwyaf wrth i ni lywio drwy dir anghyfarwydd yn ystod y pandemig Covid, y digwyddiad sengl mwyaf rydym wedi gorfod ymateb iddo fel sefydliad ers blynyddoedd lawer; a bu camu ymlaen o’r man hwnnw yn ganolog i’n hymagwedd at ymadfer.
“Mae hefyd wedi ein llywio drwy’r heriau rheoliadol sydd wedi bod yn anodd ac yn ddirboenus, ac yn ystod ei amser fel Cadeirydd mae hefyd wedi’n harwain ar ein taith tuag at welliant a thwf, sydd wedi peri i ni fynd o nerth i nerth ‒ ac arwain at lansiad ein his-gwmni o dan berchnogaeth lwyr, Llanw.
“Rydym wedi cyflawni’r llwyddiannau hyn gyda chymorth, craffu ac anogaeth gan Anthony ar bob cam o’r ffordd. Yn ddiamau mae Cymoedd i’r Arfordir wedi elwa’n sylweddol oherwydd ei yrfa hir a nodedig yn y sector tai cymdeithasol, ac fel Tîm Gweithredol rydym yn wirioneddol ddiolchgar.
“Yn bersonol, rydw i eisiau diolch i Anthony am fod mor gefnogol tuag ataf innau a’r tîm cyfan bob amser, a hefyd i’w gyd-aelodau ar y Bwrdd. Bydd gennym atgofion hoff o’i arweiniad cadarn ond caredig a meddylgar. Dymunwn yn dda iddo yn ystod ei ymddeoliad, wrth iddo gael treulio mwy o amser gyda’i deulu hyfryd a’i annwyl gŵn, a gobeithiwn y bydd yn parhau i gefnogi Cymoedd i’r Arfordir o gysur y cyrion.”
Wrth ymuno â Bwrdd Cymoedd i’r Arfordir fel ei Gadeirydd newydd, mae Amanda Davies yn dod â chyfoeth o brofiad o’i gyrfa mewn tai a gwasanaethau cymorth a gofal, ar y cyd â swyddi bwrdd wrth galon cyrff elusennol ac adfywio yng Nghymru.
Bydd yn cydweithio’n agos gyda’r Tîm Gweithredol gan graffu a daparu cyngor strategol wrth i’r busnes barhau i dyfu fel un o landlordiaid tai cymdeithasol blaenllaw Cymru.