Rydym yn falch iawn o gyhoeddi apwyntiad Amanda Davies, cyn-Brif Weithredwr y Grŵp Pobl, fel Cadeirydd newydd ein Bwrdd.
Bydd Amanda yn ymuno â Chymoedd i’r Arfordir ym mis Ebrill, gan ddod â chyfoeth o brofiad o’i gyrfa mewn tai, gofal a gwasanaethau cymorth, ynghyd â swyddi bwrdd yng nghanol adfywio yng Nghymru a chyrff elusennol.
Bydd yn camu i esgidiau’r Cadeirydd Anthony Whittaker sy’n ymddeol ac yn ffarwelio â Chymoedd i’r Arfordir ar ôl pum mlynedd wrth y llyw.
Bydd Amanda yn cydweithio’n agos gyda Phrif Weithredwr ein Grŵp, Joanne Oak a’n Tîm Gweithredol gan ddarparu cyngor strategol a chraffu wrth i ni barhau i dyfu fel un o landlordiaid tai cymdeithasol blaenllaw Cymru.
Dywedodd Amanda bod hwn yn amser perffaith i ymuno â’r Bwrdd ac i hyrwyddo darparu gwasanaeth cyflenwi ardderchog i’n cwsmeriaid.
“Rwyf wrth fy modd o gael y cyfle i ymuno â Bwrdd Cymoedd i’r Arfordir fel eu Cadeirydd.
“Mae gwerthoedd, diwylliant ac uchelgais y sefydliad yn fy ysbrydoli ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr at ddod i adnabod pawb. Mae gen i lawer i’w ddysgu am Gymoedd i’r Arfordir ond fy argraff gynnar yw bod y Bwrdd, dan arweiniad y Cadeirydd ymadawol, Anthony Whittaker, wedi creu gwir ymdeimlad o ‘ymdrech a rennir’ i hwyluso a hyrwyddo darparu gwasanaethau rhagorol i’n tenantiaid. Rwy’n ymrwymedig i adeiladu ar y sylfaen gadarn hon.
“Fel sector rydym mewn amser o newid, cyfle a heriau cynyddol. A hefyd mae ein cwsmeriaid, cymunedau a’n partneriaid yn parhau i fynd i’r afael â chyfnod sydd wedi bod yn anodd yn economaidd.
“Rwy’n awyddus i weithio gyda’r Bwrdd, Joanne Oak, a’i thîm, i sicrhau bod Cymoedd i’r Arfordir yn sefydliad gwydn sy’n cyflawni dros ein cwsmeriaid a’n cymunedau.”
Amanda Davies, Cadeirydd Cymoedd i’r Arfordir
Ychwanegodd Joanne Oak, Prif Weithredwr y Grŵp:
“Rydym yn croesawu Amanda i Gymoedd i’r Arfordir ar gyfnod arbennig o gyffrous wrth i ni ddathlu ein 20fed blwyddyn a pharhau â’n rhaglen dwf uchelgeisiol.
“Roedd brwdfrydedd Amanda dros roi cwsmeriaid yn y canol yn amlwg ymhlith carfan gref iawn o ymgeiswyr ar gyfer y rôl – cydnabuwyd hyn gan ein cwsmeriaid a’n helpodd yn y broses recriwtio gan rannu eu cwestiynau a’u profiad fel rhan o’n proses gyfweld.
“Edrychwn ymlaen yn fawr at weithio gydag Amanda ac elwa ar ei phrofiad a’i harbenigedd.”
Eisiau gwybod mwy ynglŷn â’n Bwrdd?
Mae ein Bwrdd yn grŵp o bobl sy’n annibynnol oddi wrth Gymoedd i’r Arfordir ac sy’n cefnogi ein proses o wneud penderfyniadau ac yn dal yr awdurdod a’r atebolrwydd terfynol ar gyfer rhedeg y sefydliad er budd ein cwsmeriaid, cymunedau a’n cydweithwyr.
Ar y cyd â’n prif Fwrdd, mae gennym dri phwyllgor: y Pwyllgor Archwilio a Risg; y Pwyllgor Pobl a Thâl; a’r Pwyllgor Datblygu a Rheolaeth.
Mae aelodau’r Bwrdd yn cwrdd yn rheolaidd i drafod ein strategaeth, ein perfformiad, a’n sefyllfa ariannol, ac yn cefnogi ac yn herio’r Tîm Gweithredol yn adeiladol wrth gyflawni ein hamcanion.