Gan fod y tymereddau’n gostwng islaw’r rhewbwynt, rydyn ni eisiau sicrhau eich bod yn cadw’n ddiogel ac yn gynnes yn eich cartref y gaeaf hwn. Am ragor o gyngor, ewch i’r wefan UK Government’s guide to keeping warm and well.
Dyma ein awgrymiadau gorau am ddelio â’r oerfel:
1. Cadw’ch cartref yn glyd
Gall mewnanadlu aer oer fod yn beryglus i’ch iechyd a’ch gwneud yn fwy agored i heintiau’r frest, felly mae’n bwysig eich bod yn cynnal tymheredd diogel yn eich cartref. Mae’r GIG yn argymell tymheredd cyson o 18°c o leiaf os gallwch.
Ynghyd â gwres canolog, mae ffyrdd eraill y gallwch gynhesu eich cartref:
- Defnyddiwch rimynnau drafft ar y bylchau yn eich ffenestri a drysau a chadwch y llenni ar gau gyda’r hwyr.
- Cadwch ddodrefn i ffwrdd oddi wrth reiddiaduron a waliau allanol – mae hyn yn caniatáu i’r gwres o’r rheiddiaduron gylchdroi’n rhydd o gwmpas yr ystafell a byddwch yn teimlo llawer yn gynhesach wrth ochr waliau mewnol.
- Gosodwch ryg ar deils neu lawr laminedig i inswleiddio’r lloriau.
- Agorwch y llenni yn ystod y dydd i adael yr haul i mewn, a’u cau gyda’r hwyr i ddal y gwres i mewn – efallai byddai’n werth buddsoddi mewn pâr o lenni thermol fel inswleiddiad ychwanegol.
- Ystyriwch brynu blanced drydan – maen nhw’n rhad i’w rhedeg a gallant gadw’ch gwely’n glyd ar nosweithiau oer.
2. Cadwch eich corff yn gynnes
- Gwisgwch ddigon o haenau tenau – mae hyn yn dal gwres yn fwy effeithiol na dim ond gwisgo un haen drwchus
- Trwy gadw eich dwylo a’ch traed yn gynnes, byddwch yn helpu i gynhesu gweddill eich corff. Gwisgwch hosanau fflwffog, cynnes a phâr o fenig. Rydych hefyd yn colli gwres drwy eich pen, felly ystyriwch wisgo het o gwmpas y tŷ!
- Mae symud o gwmpas a chadw’n brysur yn gwneud i’ch gwaed bwmpio gan eich cadw’n gynhesach. Os yw eich symudedd yn gyfyngedig, gall symud dim ond eich breichiau helpu hefyd.
- Gwiriwch a ydych yn gymwys am y pigiad ffliw – mae am ddim i bobl dros 65, gofalwyr, a phobl sydd â chyflyrau iechyd tymor hir penodol – gofynnwch i’ch meddyg neu eich fferyllfa leol.
3. Y cynlluniau gostyngiad a chymorth tanwydd y gaeaf
Pan fydd yn rhewi tu allan, y peth olaf rydych chi eisiau yw cael eich gadael heb wres neu ddŵr twym. I atal hyn a materion eraill rhag digwydd, argymhellwn eich bod yn gwneud ychydig wiriadau cynnal a chadw yn eich cartref y gaeaf hwn:
- Gwiriwch eich rheiddiaduron – os oes mannau oer ar eich rheiddiadur efallai bod angen gollwng aer ohono. Darllenwch ein canllaw ar ollwng aer o reiddiaduron yma. Os ydych yn cael problemau o hyd, cysylltwch â ni.
- Gwiriwch eich boeler
- Gwiriwch eich stopfalf – dylech wybod ble mae hwn fel y gallwch droi eich dŵr i ffwrdd os oes angen
- Gwnewch yn siŵr eich bod yn dilyn ein cyngor ar Leithder, Llwydni a Chyddwysiad
- Dysgwch beth yw’r arwyddion o gnofil yn eich cartref – mae plâu yn fwy tebygol o chwilio am wres yn ystod misoedd y gaeaf, gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod sut i’w hadnabod. Dilynwch ein cyngor i atal cnofilod yn y cartref a chysylltwch â CBSP os ydych yn gweld rhai y tu mewn i’r tŷ.
- Cysylltwch â ni os ydych yn amau bod piben wedi rhewi (e.e. mae’r dŵr ddim ond yn diferu, ni allwch gynnau’r boeler neu mae’n gwneud synau byrlymu, aroglau anarferol)
- Rhowch wybod i ni am unrhyw waith atgyweirio trwy gysylltu â’n Hyb Gwasanaeth i Gwsmeriaid.
- Rhowch wybod i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr am faterion gyda ffyrdd, graean, gwastraff, adeileddau wedi difrodi (e.e. pontydd).
4. Winter fuel support and discount schemes
Efallai eich bod yn poeni am gostau byw’r gaeaf hwn, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod p’un ai fod gennych hawl i unrhyw gymorth ariannol. Mae nifer o gynlluniau ar gael gan y llywodraeth, yn cynnwys:
Mae Llywodraeth y DU yn newid y Cynllun Gostyngiad Cartrefi Cynnes. Bydd y cynllun yn rhoi ad–daliad o £150 i gartrefi cymwys. Cewch fwy o wybodaeth ynglŷn â’r Cynllun Gostyngiad Cartrefi Cynnes yn GOV.UK
Mae’r Taliadau Tanwydd Gaeaf yn dâl untro blynyddol i’ch helpu i dalu am wres yn ystod y gaeaf. Fel arfer gallwch gael Tâl Tanwydd Gaeaf os cawsoch eich geni ar neu cyn 26 Medi 1955. Gwiriwch faint o Dâl Tanwydd Gaeaf gallwch ei gael a sut i’w hawlio yn GOV.UK
Mae Taliadau Tywydd Oer yn daliadau untro i’ch helpu i dalu am gostau gwresogi ychwanegol pan fydd yn oer iawn. Byddwch yn cael tâl bob tro mae’r tymheredd yn disgyn islaw tymheredd penodol am gyfnod penodol o amser. Gallwch dderbyn Tâl Tywydd Oer os ydych yn derbyn y rhain yn barod:
- Credyd Pensiwn
- Cymorth Incwm
- Lwfans Ceiswyr Gwaith yn Seiliedig ar Incwm
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn Seiliedig ar Incwm
- Credyd Cynhwysol
Os ydych yn gymwys, byddwch yn cael eich talu’n awtomatig. Cewch fwy o wybodaeth ynglŷn â’r Taliadau Tywydd Oer yn GOV.UK
Efallai byddwch yn gymwys i dderbyn Tâl Tanwydd Amgen (AFP) o £200 os nad yw eich cartref wedi’i gysylltuiedig â’r grid prif gyflenwad nwy ac rydych yn defnyddio tanwydd amgen fel eich prif ffurf o wresogi.
Bydd y rhan fwyaf o gartrefi cymwys yn cael tâl AFP yn awtomatig.
Gwnewch gais am gymorth biliau tanwydd amgen os na wnaethoch ei dderbyn yn awtomatig.
Rydym yn partneru â Chymru Gynnes i helpu i sicrhau bod cartrefi ein cwsmeriaid yn ddiogel ac yn gynnes y gaeaf hwn.
Mae Cymru Gynnes, y cwmni buddiannau cymunedol cyntaf yng Nghymru, yn gweithio i leddfu tlodi tanwydd yng Nghymru a’r De Orllewin trwy brosiectau cymunedol a gweithio mewn partneriaeth.
Mae’r meysydd cymorth a ddarperir gan Gymru Gynnes yn cynnwys:
- Diogelwch yn y Cartref: Gwybodaeth a chyngor ynglŷn â charbon monocsid, oerfel gormodol, lleithder a llwydni, a chymorth i gyrchu cynlluniau sy’n cynnig addasiadau yn y cartref.
- Gwneud y Gorau o Arian: Lleihau biliau ynni a dŵr, cymorth gyda dyled a chymorth gyda thai, ynghyd â mynediad at wiriadau budd-daliadau llawn i wneud yn siŵr eich bod yn hawlio popeth rydych yn gymwys i’w dderbyn.
- Cyngor Ynni a Chynhesrwydd Fforddiadwy: Cymorth gyda cheisiadau ar gyfer cynlluniau a ariennir gan grant, darparu boeleri newydd, systemau gwres canolog ac inswleiddiad i gartrefi cymwys; gwybodaeth a chyngor ynglŷn â mesuryddion deallus a deall biliau; cymorth i gyrchu cynlluniau disgownt yn cynnwys y Disgownt Cartrefi Cynnes.
Mae gan ein Tîm Materion Ariannol gyfoeth o brofiad ac mae aelodau o’r tîm ar gael i roi cymorth cyfrinachol, am ddim, os ydych yn cael anawsterau ariannol.
Dyma rai o’r pethau gallwn siarad â chi amdanynt.
- Y taliadau bydd angen i chi eu gwneud cyn symud i’ch cartref newydd, yn cynnwys biliau fel rhent, treth gyngor, a biliau dŵr, trydan, a nwy. Gallwn eich helpu i ffeindio’r cyflenwyr mwyaf fforddiadwy ar gyfer eich cyllideb, a rhoi gwybod i chi am unrhyw ddisgowntiau mae gennych hawl iddynt.
- Beth fydd ei angen arnoch ar eich diwrnod symud tŷ – a all fod yn gostus yn aml pan fyddwch yn gorfod prynu’r hanfodion ar gyfer eich cartref. Gallwn eich cyfeirio at leoedd a all eich helpu i gael popeth sydd ei angen arnoch am bris isel.
- Cymorth parhaus os ydych yn dechrau cael anhawster i dalu eich biliau.
- Adolygu eich budd-daliadau, i sicrhau na fydd unrhyw newidiadau yn effeithio arnoch.
- Mynd ar-lein, fel y gallwch gael y bargeinion gorau ar y farchnad, arbed arian drwy fynd yn ddi-bapur, a chadw mewn cysylltiad i gael diweddariadau pwysig.
- Darparu cymorth, cyngor a mynediad at y gwasanaethau ariannol sydd eu hangen arnoch i wella eich lles ariannol.
Os hoffech gael cymorth, neu os oes gennych unrhyw gwestiynau ac mae angen help arnoch i’w hateb, cysylltwch â ni.