Yn nhirwedd gyfnewidiol ein byd heddiw, rydym wrthi’n barhaus yn chwilio am ffyrdd arloesol o wella’r profiad i’n cwsmeriaid ynghyd â pharhau i fod yn lle gwych i weithio ynddo a recriwtio’r bobl orau i weithio gyda ni. I barhau i fod yn barod i newid a thyfu, rydym yn treialu menter sy’n anelu at ddod â mwy o ystwythder a chydbwysedd i’n hamgylchedd gweithio.
Rydym yn deall bod llawer o’n cydweithwyr yn jyglo amrywiol gyfrifoldebau y tu allan i’r gwaith, ac rydym eisiau eu grymuso drwy opsiynau sy’n cynnal cydbwysedd bywyd a gwaith iach. Dyma’r trefniadau gweithio newydd rydym yn eu harchwilio:
- Cynllun Gorffen yn Gynnar (1pm) Dydd Gwener: Ar Gyfer Ein Cydweithwyr Masnach
- Pythefnos Naw Diwrnod: Ar Gyfer Ein Cydweithwyr Eraill
Mae’n bwysig nodi bod y cynlluniau hyn yn gyson â’n hegwyddorion craidd, sy’n blaenoriaethu cyflenwi gwasanaethau, bodlonrwydd cwsmeriaid, gwaith tîm, a diogelwch fel ein hegwyddorion arweiniol. Cynlluniwyd y newidiadau hyn er budd pawb – ein cydweithwyr ac, o ganlyniad, ein cwsmeriaid.
Mae’r rhan fwyaf o’n cydweithwyr yn treialu ffyrdd newydd o weithio. Maent yn parhau i weithio’r un nifer o oriau bob wythnos, neu bythefnos, ond maent yn gweithio diwrnodau hirach fel y gallant orffen yn gynnar ar ddydd Gwener neu bob yn ail ddydd Gwener fel diwrnod gorffwys. Bydd estyn eu diwrnodau gwaith yn golygu y bydd hyn yn cael ychydig iawn o effaith ar gwsmeriaid.
Bydd llwyddiant y treial hwn yn seiliedig ar yr adborth a dderbyniwn gennych chi, ein cwsmeriaid a’n cydweithwyr. Rydym yn ymrwymedig o hyd i fonitro’n ofalus sut fydd y newidiadau hyn yn effeithio ar eich rhyngweithiadau â ni ac ar ansawdd y gwasanaeth a gyflwynwn. Mae’r treial wedi bod ar waith am chwe wythnos bellach, felly hoffem glywed eich meddyliau a’ch barn.
A ydy’ch profiad gyda ni dros y chwe wythnos diwethaf wedi bod yn un gwell? Neu waeth? Neu dydych chi heb weld llawer o wahaniaeth? Neilltuwch funud neu ddwy i roi adborth ar eich profiadau drwy e-bostio customervoice@v2c.org.uk. Mae eich mewnbwn yn werthfawr i’n helpu i fireinio’r fenter hon er budd pawb sydd ynghlwm wrthi.