Mae’r wythnos hon yn Wythnos Genedlaethol Diogelwch a Chydymffurfio Tai Cymdeithasol, ac mae’n galw ar y gadwyn gyflenwi tai cymdeithasol gyfan i uno y tu ôl i ‘Diogel Gyda’n Gilydd’, mudiad newydd sy’n ceisio gwella diogelwch cwsmeriaid. Rydym yn gwneud nifer o bethau i’ch cadw’n ddiogel a sicrhau cydymffurfiad yn ein cartrefi.
Diogelwch Nwy
Diogelwch yw ein prif flaenoriaeth, yn enwedig mewn perthynas â nwy yn ein cartrefi. Rydym yn sicrhau bod yr holl gyfarpar a gosodiadau nwy yn cael eu gwirio a’u cynnal yn rheolaidd. Mae ein hymrwymiad i ddiogelwch nwy yn cynnwys:
- Mae ein peirianwyr Diogelwch Nwy cofrestredig yn cynnal gwiriadau diogelwch blynyddol i archwilio ac ardystio cyfarpar nwy yn ein meddiannau.
- Rydym yn darparu llinell ffôn y tu allan i oriau 24/7, sy’n sicrhau ymatebion cyflym i ddatrys materion cysylltiedig â nwy yn achos argyfyngau.
Diogelwch Trydanol
Mae trydan yn rhan hollbwysig o fywyd modern, ond gall hefyd greu risgiau os na chaiff ei drin yn briodol. Rydym yn blaenoriaethu diogelwch trydanol trwy:
- Gynnal archwiliadau trydanol rheolaidd yn ein cartrefi bob 5 mlynedd i sicrhau eu bod yn bodloni’r safonau diogelwch uchaf.
- Ymateb yn ddioed i unrhyw faterion trydanol a all ymgodi, gan sicrhau bod ein meddiannau’n aros yn ddiogel ac yn llawn weithredol.
Cydymffurfio a Rheoleiddio
Mae parhau i gydymffurfio â rheoliadau’r diwydiant yn greiddiol i’n gwaith. Rydym yn dilyn yr holl reoliadau a safonau angenrheidiol yn y gwasanaethau a ddarparwn, gan sicrhau y gall ein cwsmeriaid ymddiried ynom. Mae ein hymrwymiad i gydymffurfio yn cynnwys:
- Diweddaru ein tîm yn barhaus ar y rheoliadau diweddaraf a’r arferion gorau i sicrhau bod ein gwasanaethau’n bodloni safonau’r diwydiant.
- Cynnal archwiliadau rheolaidd i sicrhau bod ein gweithrediadau’n cydymffurfio â’r gofynion rheoliadol, gan gadarnhau i’n cwsmeriaid mai eu diogelwch nhw yw ein prif flaenoriaeth.
Ein Her Fwyaf: Mynediad i gartrefi
Er gwaethaf ein hymrwymiad i ddiogelwch a chydymffurfio, un o’n heriau mwyaf difrifol yw cael mynediad i gartrefi rhai o’n cwsmeriaid. Mae’n bwysig eich bod yn caniatáu mynediad ar gyfer unrhyw wiriadau cydymffurfio gan fod hyn yn sicrhau bod eich cartref yn ddiogel.
Ar gyfer gwiriadau diogelwch trydanol sy’n digwydd bob 5 mlynedd, mae angen tua 3 awr ar ein tîm i archwilio pob ystafell yn y tŷ. I wneud hyn, rhaid bod yr eiddo mewn cyflwr addas ac yn rhoi mynediad clir i’r holl offer trydanol.
Os sylwch ar unrhyw broblemau a allai effeithio ar ymweliadau cydymffurfio, rhowch wybod i’n Tîm Tai Cymunedol cyn gynted â phosibl. Gorau po gynted y caiff y materion hyn eu trin, fel y gallwn geisio’u datrys cyn dyddiadau’r gwaith gwirio a chynnal. Ac os oes rhywbeth a allai rwystro ymweliad cydymffurfio, rhowch wybod i ni.