Rydym yn falch iawn o rannu’r newyddion diweddaraf am ein datblygiad Heol yr Hen Orsaf ym Mhorthcawl, sef prosiect rydym yn gweithio arno mewn partneriaeth â Paramount. Wrth i fisoedd y gaeaf agosáu, rydym eisiau rhoi gwybod i chi sut mae’n datblygu.
Rydym yn falch iawn o rannu’r newyddion diweddaraf am ein datblygiad Heol yr Hen Orsaf ym Mhorthcawl, sef prosiect rydym yn gweithio arno mewn partneriaeth â Paramount. Wrth i fisoedd y gaeaf agosáu, rydym eisiau rhoi gwybod i chi sut mae’n datblygu.
Dechreuodd ein tîm weithio ar yr hen safle tir llwyd yn gynharach eleni, ac rydym wrth ein bodd o roi gwybod i chi bod y datblygiad newydd yn mynd yn ei flaen yn hwylus iawn. Mae’r adeilad yn Heol yr Hen Orsaf a bydd yn cynnwys 17 eiddo un ystafell wely a 3 eiddo dwy ystafell wely, cyfanswm o 20 eiddo. Ers ein diweddariad yn yr haf, rydym wedi cyrraedd carreg filltir bwysig wrth i ni osod y 5ed llawr, a’r olaf, ym mis Medi.
Nod yr adeilad aml-lawr hwn yw gwasanaethu’r ddemograffeg dros 50 oed yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr. Dechreuwyd y gwaith adeiladu ym mis Chwefror 2023 a phan fydd yn barod, bydd yn ychwanegiad dymunol at orwel Porthcawl, lle mae’r galw am lety un ystafell wely yn cynyddu’n gyflym.
Llwyddom i sicrhau £2,779,002 mewn cyllid ar gyfer y datblygiad hwn drwy Grant Tai Cymdeithasol Llywodraeth Cymru gyda chymorth gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Rhagwelir y bydd y prosiect yn cael ei gwblhau ym mis Ebrill 2024, ac mae wedi mynd o nerth i nerth dros y misoedd diwethaf.
Yn ddiweddar, trefnwyd ymweliad safle i Borthcawl, ac ymunodd cynrychiolwyr o Paramount â ni, ynghyd â’r Cynghorydd Huw David a’r Cynghorydd Neelo Farr, i gael diweddariad gweledol ar y cynnydd. Gan ddefnyddio dulliau adeiladu cyflym ac effeithlon, mae’r 5 llawr wedi mynd i fyny mewn ychydig fisoedd.
Ynghyd â defnyddio fframwaith Metsec, mae’r defnydd o slipiau brics hefyd wedi cyfrannu at yr amser adeiladu byrrach. Mae slipiau brics, sy’n defnyddio deunydd gwydn, ailgylchadwy, ysgafn, yn cyfrannu at y Tystysgrif Perfformiad Ynni (EPC) dosbarth A a roddwyd i’r datblygiad, a hefyd at sicrhau diogelwch tân o safon uchel. Disgwylir y bydd y prosiect yn barod yn Ebrill 2024, a bydd yr adeilad gorffenedig yn cynnwys parcio i feiciau a phaneli solar, ac ni fydd yn defnyddio nwy fel ffynhonnell ynni.
Ar ôl ymweld â’r safle ym Mhorthcawl yn ddiweddar, dyweddodd Benny Griffiths, un o’r Partneriaid Busnes Cyfathrebu yng Nghymoedd i’r Arfordir:
“Mae cyflymder yr adeiladu ar y datblygiad hwn yn nodedig. Ar ôl gweld y sylfeini’n cael eu gosod ar ddechrau’r haf, roedd yn wych gweld sut mae’r safle wedi datblygu mewn cyfnod mor fyr. Gan mai nod Cymoedd i’r Arfordir yw adeiladu 1,000 o gartrefi fforddiadwy newydd ym Mhen-y-bont ar Ogwr erbyn 2031, mae ein tîm bob amser yn falch o weld prosiectau fel hyn yn symud ymlaen yn hwylus – yn enwedig pan fyddant yn cael eu hadeiladu mor gyflym ac effeithlon”