Ton newydd mewn gwasanaethau atgyweirio a chynnal a chadw eiddo.
Yn ddiweddar, cawsoch wybod gennym ein bod yn lansio cwmni newydd i wella, tyfu a datblygu ein gwasanaethau atgyweirio a chynnal a chadw.
Mae’n bleser gennym gyhoeddi mai enw ein cwmni atgyweirio a chynnal a chadw newydd fydd Llanw.
Mae’r enw Llanw yn cynrychioli’r holl bethau yr ydym am i’n gwasanaethau fod – mor ddibynadwy â’r llanw. Dibynadwy; adnewyddol; cyson; cadarn. Ac yn barod i ymateb i bob her.
Cafodd ei ysbrydoli nid yn unig gan yr addewidion hyn yr ydym yn ei gwneud i chi, mae’n symbol hefyd o sut y byddwn yn addasu ac yn ymateb i’r modd y mae eich anghenion yn symud ac yn newid yn barhaus, yn yr un modd ag yr ydym yn addasu i drai a llif y llanw.
Wrth gwrs, mae’r enw Llanw hefyd yn adlewyrchu ein golygfeydd naturiol hardd gydag arfordir ysblennydd 11 milltir Sir Pen-y-bont ar Ogwr, a chysylltiadau â’r enw Cymoedd i’r Arfordir – y llanw yn darparu llif cyson o nentydd ac afonydd i’n cymoedd wrth iddynt wneud eu ffordd tuag at ein harfordir.
Wrth feddwl am yr enw, fe wnaethom ymestyn allan atoch ar y cyfryngau cymdeithasol yn gofyn i chi sut oeddech chi am i’r gwasanaeth atgyweirio a chynnal a chadw newydd ‘deimlo’. Fe wnaethom hefyd ofyn i’n cydweithwyr sut hoffen nhw eich clywed chi’n ein disgrifio.
Dibynadwy, proffesiynol ac effeithlon oedd y tri gair allweddol a ddaeth drwodd yn uchel ac yn glir.
Roeddem wrth ein bodd i gael cwmni Cheryl a Tom wrth i ni feddwl am rai syniadau ar gyfer enwau yn seiliedig ar y themâu hyn – proses a welodd ni’n hidlo tua 100 o awgrymiadau i lawr i chwech terfynol, cyn i ni setlo ar Llanw.
Mae ein logo newydd wedi’i ysbrydoli gan y llanw wrth gwrs, ond mae hefyd yn symbol o sut y byddwn yn gweithio gyda chi i ddarparu cartrefi, lleoedd a chymunedau diogel a hapus.
- Mae prif siâp y logo yn cynrychioli pŵer anhygoel ein cysawd heuluol a sut y mae’n gwthio ac yn tynnu i greu trai a llif ein llanw;
- Mae hefyd yn symbol o ddiogelwch a gwarchodaeth – mae’r amlinelliad yn debyg i bedeirdalen neu ‘quatrefoil’, sy’n symbol hynafol o ddiogelwch;
- Mae’n debyg i siâp blodyn, sy’n cynrychioli ein hymrwymiad i’r amgylchedd;
- Mae’n dangos ein hymrwymiad i gymuned, a chydweithio â chi;
- Ac yn olaf mae’n cynrychioli’r wên rydyn ni’n gobeithio ei gweld gan bobl sy’n byw mewn cartrefi diogel a hapus.
Cadwch lygad allan am ddiweddariadau ar ein gwefan newydd sbon www.Llanw.Cymru
Diolch i Cheryl a Tom am ymuno â’n gweithdai i ddod o hyd i frand a’n helpu i greu’r enw ar gyfer ein cwmni newydd! Dyma nhw gyda Paul Price, Rheolwr Gyfarwyddwr Llanw.
Dywedodd, Tom Burke, cwsmer: “Roeddwn i eisiau cymryd eiliad i ddiolch i chi i gyd am ganiatáu i mi i fod yn rhan o’r gwaith ymchwilio i’r is-gwmni o dan berchnogaeth lwyr. Rwyf wedi cael amser gwych ac rwy’n awyddus i gymryd rhan mewn mwy o agweddau ar eich gwaith. Mae gallu gweld lle rwy’n ffitio i mewn fel preswylydd yn rhoi gwell ymdeimlad o berthyn i mi, ac rwy’n gwerthfawrogi hynny.”
- Dros y misoedd diwethaf, rydym wedi bod yn gweithio’n galed i gynllunio ar gyfer lansio Llanw, ac rydym am ddiolch i chi am ein helpu ni!
Mae eich mewnbwn yn gwbl hanfodol, ac rydym wrth ein bodd gweld cymaint ohonoch yn dod i weithio gyda ni yn ein grwpiau ffocws, neu hyd yn oed drwy wneud sylwadau ar ein postiadau ar y cyfryngau cymdeithasol.
Os hoffech gymryd rhan, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych! Ffoniwch ni ar 0300 123 2100 neu e-bostiwch CustomerVoice@v2c.org.uk.