Ar 27 Gorffennaf, byddwn yn cynnal taith gerdded er budd ein helusen y flwyddyn rhagorol, Y Bwthyn Newydd. Maen nhw’n gwneud gwaith anhygoel yn helpu pobl sy’n wynebu afiechydon difrifol drwy ofalu am eu hanghenion corfforol, emosiynol ac ysbrydol.
Bydd y daith gerdded yn dilyn llwybr 20 cilometr o Gwm Ogwr i dref Pen-y-bont ar Ogwr a byddwn yn mwynhau golygfeydd syfrdanol ar hyd y ffordd. Rydym wedi cynllunio’r mannau aros yn ofalus i sicrhau bod pawb yn gallu ymuno a chyfrannu, ni waeth beth yw eu lefel ffitrwydd neu faint o amser sydd ganddynt.
Meddai Cassie Jenkins, arweinydd y daith yng Nghymoedd i’r Arfordir: “Rydym yn falch iawn o gael y cyfle i gymryd rhan yn yr her Heicio am Dai sy’n cefnogi achos mor deilwng. Fel tîm rydym yn cydnabod y rhan hanfodol mae Y Bwthyn Newydd yn ei chwarae ym Mhen-y-bont ar Ogwr.”
“Mae cymdeithasau tai fel ein un ninnau yn gweithio’n ddiflino i sicrhau bod pobl yn byw bywydau diogel a hapus, felly rydym wrth ein bodd o gael cefnogi elusen sy’n rhannu cymaint o’n gwerthoedd fel sefydliad.”
Ond mae’r digwyddiad hwn yn fwy na dim ond cefnogi achos teilwng. Mae’n gyfle i ymgysylltu â phobl o’r un meddylfryd, cwrdd cyfeillion newydd a chryfhau ein hymdeimlad o gymuned.
Felly, hyd yn oed yn y cyfnod anoss hwn, os gallwch sbario ceiniog neu ddwy, ystyriwch ein noddi trwy ein tudalen GoFundMe. Bydd eich cymorth yn mynd ymhell i’n helpu i gyrraedd ein targed codi arian.