Rydym newydd orffen cyfrifo ein hôl troed carbon, sy’n dweud wrthym faint o garbon rydyn ni’n ei ddefnyddio fel sefydliad mewn blwyddyn. Mae hyn yn helpu i roi syniad i ni o’r effaith rydyn ni’n ei gael ar y blaned.
Cyfanswm ein defnydd o garbon ar gyfer 2022-23 yw 33,938 o dunelli o garbon deuocsid a’i gyfatebol (tCO2e), sef gostyngiad o 169 o dunelli ers y llynedd!
Rydym wedi cyflawni hyn drwy leihau ein hôl troed carbon mewn meysydd fel
- fflyd,
- teithio busnes,
- allyriadau nwy a thrydan, a
- chymudo.
Er bod yr allyriadau o ddŵr, gwastraff, a nwyddau a gwasanaethau a gaffaelwyd wedi cynyddu rhywfaint, rydym wedi llwyddo i wneud gwelliannau. Un rheswm am hyn yw effaith COVID-19, a olygodd bod mwy o’n cydweithwyr yn gweithio gartref gan leihau swm yr allyriadau carbon wrth gymudo. Er na allwn wneud mwy nag amcangyfrif yr allyriadau carbon gan gydweithwyr sy’n gweithio gartref, rydym yn gwybod eu bod yn llai na phan oedd pawb yn cymudo bob dydd.
Rydym hefyd wedi gwella’r ffordd rydym yn casglu ac yn cofnodi data, a gall hyn olygu bod y data’n edrych yn waeth nag y maent. Er enghraifft, mae ein data gwastraff wedi cynyddu o 9 tCO2e i 83 tCO2e, ond nid yw hyn yn golygu ein bod wedi cynyddu ein gwastraff yn sylweddol. Mae’n golygu’n syml ein bod wedi gwella’n ffordd o’i dracio a’i gofnodi.
Er bod y rhan fwyaf o’r data a ddefnyddiwn yn gywir, mae cyfran fechan yn amcangyfrif. Ond wrth i ni barhau ar ein taith i leihau ein hôl troed carbon, rydym yn symud oddi wrth amcangyfrifon ac yn casglu data mwy cywir.
Mae’r Strategaeth Dyfodol Cynaliadwy Diogel a Hapus 2020-2027 yn llywio ein holl weithredoedd a byddant yn ein helpu i gyrraedd ein nod o fod yn garbon niwtral erbyn 2030. Darllenwch y strategaeth yma.