Mae eCymru, porth i denantiaid a grewyd mewn cydweithrediad rhwng gwahanol bartneriaid a thenantiaid, wedi’i lansio’n swyddogol ac rydyn ni’n falch o gyhoeddi y gallwch nawr cofrestru fel tenant Cymoedd i’r Arfordir. Dyluniwyd eCymru i fod yn borth i ddigwyddiadau a chyfleoedd ymgysylltu a dysgu’n electronig i denantiaid, gyda’r nod o’u cynorthwyo i fyw bywydau hapusach ac iachach.

Gwnaeth pandemig COVID-19 ysgogi cydweithredu ar draws Cymru i gynnig profiad digidol newydd i denantiaid. Mae’r porth wedi cynnal nifer o weminarau llwyddiannus dan arweiniad Cymunedau Digidol Cymru, ar bynciau fel siopa’n ddiogel ac arbed arian, iechyd a llesiant digidol a chafwyd perfformiad byw gan Gôr Meibion y Barri.

Mae eCymru wedi llunio partneriaeth â’r Brifysgol Agored i gynnig ystod o gyrsiau ar-lein am ddim ym meysydd celf a chrefft, addysg, ffitrwydd ac iechyd. Datblygwyd a phrofwyd eCymru ar y cyd rhwng tenantiaid ac unigolion gan rannu gwybodaeth, sgiliau a phrofiadau pobl o bob rhan o Gymru, i sicrhau bod y porth yn bodloni anghenion amrywiol y cymunedau mae’n eu gwasanaethu.

Nod tymor hir prosiect eCymru yw meithrin cydweithredu a gwella llesiant tenantiaid. Mae tîm y prosiect yn gwahodd yr holl Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig yng Nghymru i ymuno â nhw yn yr ymdrech i gynyddu ymwybyddiaeth am y digwyddiadau a’r cyrsiau ar-lein a gynigir a gweithio tuag at ddyfodol disgleiriach i denantiaid.


Edrychwch ar wefan eCymru.

Cofrestrwch nawr!