Mae ein tîm wedi bod wrthi’n cydweithio gyda Chyngor Pen-y-bont ar Ogwr ac EcoVigour, eu partner contractio, i wella’r man gwyrdd ar Ffordd Ganol, Bracla. Rydym wedi cyflawni nifer o fentrau allweddol fel gosod ffensys, plannu coed lled-aeddfed, a chreu man eistedd newydd.
I wella’r man gwyrdd ymhellach, gwahoddom breswylwyr i ymuno â ni yn ddiweddar i blannu’r rhan olaf a’r potiau celyn. Er gwaethaf y tywydd gwael, roeddem yn falch iawn o weld llu o bobl yn troi i fyny, yn cynnwys nifer o blant brwdfrydig.
Yn ystod y digwyddiad, cawsom ein synnu ar yr ochr orau pan ddaeth crwban 9 oed i ymuno â’r rhialtwch! Roedd plannu’r coed olaf yn destun dathlu hefyd, ac fe berfformiodd fachgen ifanc o’r enw Jack ddawns ddathliadol i nodi’r achlysur.
Estynnwn ddiolch i’n tîm am sicrhau bod y prosiect yn llwyddiant ysgubol. Mae’r canlyniad yn dystiolaeth o werth cydweithredu a chyfranogiad cymuned.
Mynegodd un fam ei gwerthfawrogiad, gan ddweud, “Mae hwn yn syniad gwych. Pan fydd fy merched yn cerdded heibio, byddant yn cofio mai y nhw wnaeth blannu’r coed.”