Ar ôl 1af Ebrill, byddwn yn newid ein ffordd o arolygu cartrefi ein cwsmeriaid.
O hyn ymlaen, bydd ein Harolygwyr Asedau ac Ynni yn gwneud yr holl asesiadau angenrheidiol yn ystod un ymweliad. Bydd hyn yn rhoi’r darlun gorau posibl i Gymoedd i’r Arfordir o’r meddiannau rydyn ni’n berchen arnynt, a bydd hefyd yn creu llai o aflonyddu i’n Cwsmeriaid yn y dyfodol.
Ar hyn o bryd, pan ddaw ein Harolygwyr Asedau ac Ynni i gynnal arolygon ar gartrefi, maen nhw’n gwneud adolygiadau yn ôl yr angen. Ond nawr byddwn yn gwneud yr holl wiriadau canlynol ar unwaith:
● Asesiad TPY (EPC)
● Cyflwr Stoc
● Ôl-osod Potensial Effeithlonrwydd Ynni
Bydd yr arolwg hwn yn cymryd tua 150 munud i’w gwblhau, a bydd rhaid i’n Harolygwyr gael mynediad i’r eiddo cyfan, yn cynnwys yr atig a’r gerddi.
Ar ôl gwneud hyn, byddwn yn gallu rhoi gwybodaeth i’n cwsmeriaid am y potensial arbed ynni yn eu heiddo. Yn ogystal, bydd Cymoedd i’r Arfordir yn gallu cynllunio gwaith yn y dyfodol yn well, a hysbysu a chynnwys ein cwsmeriaid ar y daith i Ddatgarboneiddio.
Mae Llywodraeth Cymru wedi pennu targedau effeithlonrwydd ynni uchelgeisiol ar gyfer cartrefi, yn seiliedig ar eu graddfa TPY (Tystysgrif Perfformiad Ynni). Bydd y graddfeydd TPY isaf yn codi i TPY C erbyn 2029 a TPY A erbyn 2033.
Unrhyw gwestiynau? Cysylltwch â ni!