Mae’n siŵr y byddwch wedi clywed am y ffocws cenedlaethol ar broblemau gyda llwydni, cyddwysiad a lleithder yn sgil marwolaeth drasig Awaab Ishak, y plentyn dwyflwydd oed o Oldham a fu farw ar ôl dod i gysylltiad â llwydni yn ei gartref dros gyfnod hir.
Yn gwbl gywir, mae’r awdurdodau wedi bod yn craffu’n fwy gofalus ar landlordiaid, yn cynnwys landlordiaid cymdeithasol fel y ni, ers y digwyddiad hwn, i sicrhau bod y cartrefi a ddarparwn i’n cwsmeriaid yn addas ac o safon briodol.
Fel pob landlord cymdeithasol cofrestredig yng Nghymru, rydym newydd ymateb i Weinidog Tai Llywodraeth Cymru a ofynnodd am sicrwydd o ran sut rydym yn blaenoriaethu’r mater hwn. Awgrymwn eich bod yn darllen ein hymateb llawn sydd wedi’i gyhoeddi ar ein gwefan.
Er nad yw’r mater hwn yn unigryw i Ben-y-bont ar Ogwr, neu i Gymoedd i’r Arfordir fel landlord, rydym yn benderfynol o wneud popeth y gallwn i fynd i’r afael ag ef a chefnogi ein cwsmeriaid ym mhob ffordd y gallwn.
Mae sicrhau bod ein cartrefi’n ddiogel ac yn hapus wedi bod yn brif flaenoriaeth i ni erioed, ond rydym hefyd yn cydnabod fel eraill, bod mwy y gallwn ei wneud.
Felly, i ddangos ein hymrwymiad, rydym wedi sefydlu grŵp gorchwyl a gorffen a fydd yn arwain ar y mater hwn, gan ddechrau drwy edrych ar bob cais am atgyweirio yn ein system a nodi unrhyw gysylltiadau rhwng anghenion atgyweirio a’r potensial ar gyfer llwydni a lleithder. Byddwn yn blaenoriaethu ceisiadau newydd am atgyweirio a allai fod yn gysylltiedig â phroblem gyda llwydni.
- Os ydych chi’n cael trafferth gyda llwydni, lleithder neu gyddwysiad, rhowch wybod i ni ar unwaith drwy ein ffurflen gais atgyweirio ar-lein neu ffoniwch ni ar 0300 123 2100.
Byddwn hefyd yn parhau i godi ymwybyddiaeth o’r mater a chynnig cyngor i chi ynglŷn â beth ddylech ei wneud os oes gennych broblem yn eich cartref:
- Bwriwch olwg ar ein gwefan i gael gwybodaeth a chanllawiau defnyddiol ynglŷn â sut gallwch helpu i reoli’r lefelau lleithder yn eich cartref a chadwch eich llygaid ar agor am fwy o gyngor a diweddariadau yn ein cylchlythyrau i gwsmeriaid a’n ffrydiau cyfryngau cymdeithasol.