Yn ôl ym mis Hydref, trafodom ein cynlluniau i harddu Sir Pen-y-bont ar Ogwr trwy blannu 300 o goed a roddwyd gan Goed Cadw.
Rydym wedi bod wrthi’n brysur yng Nghaerau, Maesteg, Gogledd Corneli a Phencoed dros yr wythnosau diwethaf, gyda chymorth rhai ohonoch yn y gymuned, yn cynnwys disgyblion o Ysgolion Cynradd Garth, Corneli ac Afon y Felin. Diolch i bawb a fu’n gwirfoddoli yn ein digwyddiadau – roedd yn hyfryd gweld cymaint o wynebau cyfeillgar a chwilfrydig , hyd yn oed pan oedd hi’n rhewi o oer!
Fel rhan o’n hymrwymiad i ddod yn garbon niwtral erbyn 2030, mae ein coed llydanddail brodorol wedi cael eu plannu mewn ardaloedd penodol i gefnogi datgarboneiddio, annog bioamrywiaeth ac atal llifogydd. Cewch fwy o wybodaeth yma ynglŷn â ble mae’r coed wedi cael eu plannu.
Gallwch gymryd rhan o hyd! Mae’n bwysig i ni ein bod yn parhau i ofalu am ein coed wrth iddynt dyfu a ffynnu, ond ni allwn wneud hyn heb eich cymorth chi. Os byddwch yn sylwi bod rhywbeth o’i le gyda rhai o’r coed, rhowch wybod i ni yn estates@v2c.org.uk fel y gallwn fwrw golwg arnynt.