Mae awyrellau araf yn gadael awyr iach i lifo i mewn gan sicrhau bod eich cartref yn cael ei awyru’n dda.
Peidiwch â gorchuddio awyrellau eich ffenestri. Mae awyrellau araf yn lleihau lleithder, ac mae hyn yn bwysig i atal cyddwysiad a llwydni. Os ydych yn poeni bod eich ffenestr yn ddrafftiog, gwnewch yn siŵr nad yr awyrell araf ar waith sy’n ei achosi cyn cysylltu â’n Hyb gwasanaeth i gwsmeriaid i gael un newydd.
Er y gallech deimlo drafft, ni ddylai awyrellau araf gael effaith mawr at dymheredd yr ystafell. Ac mae pethau y gallwch eu gwneud i sicrhau bod eich cartref yn gynnes ac yn cael ei awyru’n dda ar yr un pryd:
- Defnyddio llenni wedi’u leinio
- Cadw drysau ar gau
- Defnyddio rhimynnau drafft os oes angen
- Cysylltwch â’n tîm Materion Ariannol os ydych yn ei chael hi’n anodd talu eich biliau gwresogi.