Yr wythnos hon, croesawom aelodau’r bwrdd a chyfranddalwyr i’n pencadlys i rannu ein hadolygiad blynyddol a’n cyfrifon am y flwyddyn ariannol ddiwethaf.
Roedd hefyd yn gyfle i rannu’r uchafbwyntiau, yn cynnwys ein cynnydd o ran adeiladu cartrefi newydd i gwrdd â’r angen lleol; buddsoddi mewn cyfleusterau cymunedol; a chydweithio gyda phartneriaid allweddol yn cynnwys Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a Choleg Pen-y-bont ar Ogwr ar faterion fel newid hinsawdd.
Fel sefydliad sy’n tyfu, dyma’r tro cyntaf i ni adrodd yn fwy manwl ar ein hôl troed carbon a’n hymdrechion i ddod yn garbon niwtral, ynghyd â rhoi cipolwg ar sut rydym yn ymwreiddio cyfranogiad rhanddeiliaid a chwsmeriaid ym mhob maes o’n gwaith.
Manteisiodd Cadeirydd y Bwrdd, Anthony Whittaker, a’r Prif Weithredwr, Joanne Oak, ar y cyfle i ateb cwestiynau gan gyfranddalwyr a thawelu eu meddwl ar nifer o themâu, yn cynnwys ein hymrwymiad i fuddsoddi yn ein cynlluniau llety gwarchod; i weithio gyda chwsmeriaid i sicrhau bod mwy o wasanaethau ar gael ar-lein yn sgil lansio’r gwasanaeth logio gwaith atgyweirio ar-lein; a’n hymdrechion i helpu cwsmeriaid i ymdopi â’r argyfwng costau byw.
“Roedd yn bleser cael cyflwyno adroddiad blynyddol cadarnhaol a set fanwl o gyfrifon sy’n dangos yr ymdrechion a wneir ledled Cymoedd i’r Arfordir i ddarparu gwasanaethau safonol, effeithiol ac effeithlon i’n cwsmeriaid,” meddai’r Cadeirydd. “Roeddem yn ddiolchgar am yr adborth gan ein cyfranddalwyr, yn cynnwys sylwadau cadarnhaol ynglŷn â’r blodau gwyllt sydd wedi harddu ein stad Wildmill dros yr haf.
“Wrth i’r sefydliad dderbyn yr heriau sydd ynghlwm wrth ddarparu gwasanaethau yng nghanol hinsawdd economaidd anodd, gellir gweld llawer iawn o uchelgais hefyd, a buddsoddiad yn ein cartrefi a’n cymunedau, ynghyd â’r adfywio ehangach yn rhanbarth Pen-y-bont ar Ogwr.”
Sesiwn Holi ac Ateb
Na, does dim cynlluniau ar hyn o bryd i drosglwyddo llety gwarchod i gymdeithas dai arall. Yn wir, rydym yn ystyried ffynonellau cyllid er mwyn buddsoddi yn ein llety gwarchod. Rydym yn buddsoddi trwy ein rhaglen cynnal a chadw gynlluniedig i uwchraddio’r trydan cymunedol mewn nifer o gynlluniau ac yn aros am ganlyniad cais am Gyllid Tai â Gofal er mwyn gosod storfa sgwteri symudedd a thechnoleg gynorthwyol yn Nhŷ Merfield.
Dangosodd ein hymchwil ymhlith cwsmeriaid mai’r prif wasanaeth roedd pobl ei eisiau oedd gallu logio gwaith atgyweirio ar-lein. Roedd gweld cyfrifon rhent yn flaenoriaeth gymharol isel. Erbyn hyn mae pobl yn gallu logio gwaith atgyweirio a byddwn yn parhau i ddatblygu gwasanaethau ar-lein ar sail ymgynghori ac ymchwil ymhlith cwsmeriaid. Yn y dyfodol agos, gallai hyn gynnwys y gallu i ad-drefnu apwyntiadau ar-lein a gweld ble mae’n nhw’n sefyll o ran ceisiadau a gyflwynwyd. Fel o’r blaen, byddwn yn gofyn i bobl yn ein cymunedau brofi ein gwefan cyn cyhoeddi datblygiadau newydd i sicrhau bod y profiad defnyddiwr yn un cadarnhaol.
Mae gennym dîm Materion Ariannol sy’n derbyn atgyfeiriadau gan y tenantiaid eu hun a gan y timau. Mae Materion Ariannol yn darparu gwasanaeth mwyhau incwm i sicrhau bod pobl yn hawlio popeth mae ganddyn nhw’r hawl iddo. Yn ystod blwyddyn ariannol 2021/2022, rhoddodd y tîm £1,477,548.29 ym mhocedi ein cwsmeriaid. Maen nhw hefyd yn cyfeirio pobl at y Swyddfa Cyngor ar Bopeth am gyngor ar ddyled.
Eleni mae gennym gronfa galedi ac ar hyn o bryd rydym yn curo ar ddrysau ein cwsmeriaid i drafod fforddiadwyedd rhent a chynlluniau pobl ar gyfer mis Hydref. Rydym hefyd yn gwahodd pobl allweddol i astudio’r data a’r deallusrwydd ar effaith costau byw fel y gallwn weithio gyda phartneriaid i benderfynu sut gallwn roi cymorth i gymunedau Pen-y-bont ar Ogwr gyda’n gilydd.
Rydym yn cynnal arolwg cynhwysfawr ar bob cartref bob pum mlynedd ac ar sail hynny rydym yn datblygu ein rhaglen welliannau. Rydym yn neilltuo buddsoddiad ariannol sylweddol bob blwyddyn ar gyfer gwaith atgyweirio a gwelliannau – £12m yn ystod 2021/22 – a hefyd yn ymgeisio am gyllid allanol. Yn 2022/23 llwyddom i sicrhau £2.1m drwy Grant Llety Dros Dro Llywodraeth Cymru ac £1.5m drwy eu Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio. Ar hyn o bryd rydym yn gweithio ar raglen waith y pum mlynedd nesaf a byddwn yn caffael cytundebau gyda BBaChau lleol i ddarparu’r gwaith. Ar yr un pryd, byddwn yn darparu llawer o’n gwaith atgyweirio a chynnal a chadw drwy ein tîm o grefftwyr mewnol.
Mae’r targed o 1000 o gartrefi yn heriol iawn ond rydym yn gweithio’n galed i gynyddu’r cyflenwad o gartrefi newydd ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Eleni rydym yn bwriadu cwblhau dros 70 o gartrefi newydd ac mae bron 200 ar y gweill. Rydym yn sicrhau bod y cartrefi yn y lle iawn ac o’r safon uchaf er mwyn darparu cartrefi diogel, hapus, sy’n fforddiadwy i’w rhedeg, i’n cwsmeriaid. Rydym yn cydweithio gyda’r Awdurdod Lleol i sicrhau bod y cyflenwad o gartrefi newydd yn cyd-fynd â’r gofynion cyflenwi, a’u bod hefyd yn y lleoliad cywir er mwyn darparu cartrefi gwych i’n cwsmeriaid.
Yn ddiweddar, rydym wedi recriwtio Rheolwr Cynaliadwyedd a fydd yn gweithio gyda’i gydweithwyr ar draws y sefydliad ac amrediad eang o randdeiliaid allanol i’n helpu i ddatblygu cynllun gweithredu a’i roi ar waith. Byddwn yn canolbwyntio ar helpu ein cwsmeriaid i leihau eu hallyriadau carbon a hefyd gwella’u cartrefi, ynghyd â lleihau’r carbon mae gweithgareddau ein busnes yn ei allyrru. Byddwn hefyd yn ceisio lleihau gwastraff, gwella bioamrywiaeth ac ymdrin yn ystwyth â thargedau cenedlaethol yn y dyfodol.
Daw Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) i rym ar 1af Rhagfyr 2022. Rydym wedi bod yn cydweithio’n agos gyda’r timau y bydd y newidiadau’n effeithio arnynt fwyaf, ac rydym wedi datblygu contract meddiannaeth drafft, wedi darparu hyfforddiant helaeth ac wedi datblygu arferion gweithio a fydd yn ein galluogi i gydymffurfio â’r ddeddfwriaeth newydd o fewn y raddfa amser ofynnol. Fodd bynnag, dylid nodi mai hwn yw’r newid mwyaf mewn arfer tai ers cenhedlaeth ac mae rhai o’r terfynau amser yn heriol iawn. Ar hyn o bryd rydym yn aros am ddiweddariadau ychwanegol gan Lywodraeth Cymru cyn y gallwn gwblhau’r contractau ysgrifenedig a darparu hyfforddiant i’r sefydliad ehangach. Ar ôl llawer o waith caled, rydym yn hyderus ein bod mewn lle da i ateb gofynion y Ddeddf.