Mae ein tîm yma yng Nghymoedd i’r Arfordir wrth ein bodd o gyhoeddi bod ein datblygiad tai diweddaraf yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr wedi’i gwblhau. Yr haf hwn, agorodd datblygiad Sant Ioan yng Nghefn Cribwr ei ddrysau i denantiaid, gyda 10 cartref newydd i’n tenantiaid yn yr ardal leol.
Ar ddydd Llun 13 Mehefin 2022, roedd yr haul yn disgleirio a digon o aelodau staff Cymoedd i’r Arfordir wrth law i groesawu’r tenantiaid newydd. Roedd Cefn Cribwr yn ferw o weithgaredd wrth i breswylwyr newydd Sant Ioan ddod i gasglu eu hallweddi, mesur ystafelloedd a symud dodrefn i mewn pan agorodd y datblygiad newydd sbon ei ddrysau am y tro cyntaf.
Meddai Rob Green, Rheolwr Datblygu Cymoedd i’r Arfordir, a oedd wrth law i groesawu’r tenantiaid newydd:
“Roeddwn yn falch iawn o gael gweithio mewn partneriaeth gyda Darlow Lloyd, CBSP a Llywodraeth Cymru i gyflawni’r datblygiad hwn. Un o gilfanteision y swydd yw cael bod yn bresennol ar ddiwrnodau symud i mewn fel y rhain: rydym nid yn unig yn cael cyfle i weld pa mor fuddiol yw’r cartrefi hyn, ond rydym hefyd yn gweld y diweddglo ar brosiect gwych rydym bob un wedi gweithio mor galed i’w gyflawni.”
Trwy Gynllun Tai Cymdeithasol Llywodraeth Cymru a Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, dechreuodd y gwaith ym mis Hydref 2020 ar safle’r hen Neuadd Ambiwlans Sant Ioan a oedd yn adfail. Gan roi pwrpas newydd i’r safle, ac enw gweddus i dalu teyrnged i’w hanes, sefydlodd Cymoedd i’r Arfordir bartneriaeth gyda Chyngor Cymuned Cefn Cribwr i adeiladu 10 eiddo newydd sbon, yn cynnwys 3 chartref wedi’u haddasu ar gyfer tenantiaid â namau ac anawsterau symudedd.
Ni lwyddodd datblygiad Sant Ioan osgoi effaith y pandemig COVID-19. Cafodd amhariadau i’r gadwyn gyflenwi, ar y cyd â chyfnodau o hunan-ynysu ymhlith y gweithlu, effaith amlwg. Ond diolch i wydnwch a hyblygrwydd ein staff a’n cyflenwyr, llwyddom i orffen yr adeiladau newydd mewn 20 mis ‒ er mawr lawenydd i’r tenantiaid newydd.
Gwnaed y sylwadau hyn gan Max Lewis, Swyddog Datblygu Cymoedd i’r Arfordir, a fu’n cydweithio gyda Rob Green a’r Swyddog Datblygu arall, Judi Thomas, yn ystod y diwrnod symud i mewn:
“Mae’r cartrefi yn Sant Ioan yn ychwanegiad pwysig i Gefn Cribwr. Mae gwella ardaloedd drwy ddefnyddio safleoedd tir llwyd fel hyn yn beth da bob amser, ond rhoddwyd ystyriaeth i’r gorffennol hefyd. Gan i ni enwi’r safle ar ôl hen Neuadd Ambiwlans Sant Ioan a safai yma 20 mlynedd yn ôl, penderfynom hefyd osod plac coffaol fel y gall preswylwyr a phobl leol gofio beth oedd yma o’r blaen”
Ar y cyd â’n staff a’n preswylwyr newydd, roedd Huw David, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, ar y safle hefyd i groesawu tenantiaid wrth iddynt gasglu eu hallweddi. Meddai’r Cynghorydd David, a oedd wedi ymweld â’r safle ar ddechrau’r gwaith adeiladu ar ddatblygiad Sant Ioan:
“Mae’n edrych yn anhygoel ‒ am drawsnewid i hen safle gwag, diangen! Nawr mae gennym gartrefi newydd deniadol i bobl, ac rwyf wrth fy modd o weld tenantiaid yn symud i mewn i’r cartrefi newydd hyfryd hyn.”
Ar ran pawb yng Nghymoedd i’r Arfordir, hoffem estyn ein dymuniadau gorau i’n holl denantiaid yn eu cartrefi newydd yn Sant Ioan!