Rydym wedi lansio partneriaeth gyda Cyfle Building Skills a fydd yn creu mwy o gyfleoedd prentisiaeth a chyflogaeth yn ein cymunedau.
Mae Cyfle Building Skills yn gynllun prentisiaeth a rennir sydd wedi cyflogi mwy na 650 o brentisiaid hyd yma – hwn yw’r cynllun prentisiaeth a rennir mwyaf yn y DU. Maent yn gweithredu yn Ne Orllewin Cymru ar hyn o bryd, a thrwy’r cydweithrediad newydd byddant yn ymestyn eu cynnig i Ben-y-bont ar Ogwr.
Cyhoeddwyd y fenter yn yr Academi STEAM yng Ngholeg Penybont, lle mae prentisiaid i 250 o gyflogwyr lleol yn cael eu hyfforddi gyda chyfleusterau o’r radd flaenaf. Rydym eisiau adeiladu ar ein cynlluniau prentisiaeth presennol a chynyddu nifer y prentisiaid sy’n gweithio’n uniongyrchol i ni, ynghyd â gyda’r contractwyr a ddefnyddiwn.
Yn y lansiad, esboniodd ein Prif Swyddog Gweithredol, Joanne Oak, sut fydd cynyddu nifer y prentisiaid yn helpu i fynd i’r afael â’r bwlch sgiliau presennol yn y diwydiant adeiladu, sy’n hanfodol i allu adeiladu mwy o gartrefi.
“Rydym yn ymrwymedig i fynd i’r afael â’r argyfwng tai lleol a chenedlaethol trwy helpu Llywodraeth Cymru i gyrraedd ei tharged o 20,000 o gartrefi newydd ecogyfeillgar. I gyflawni hyn, mae’n rhaid cael diwydiant adeiladu sydd wedi’i hyfforddi’n dda fel y gallwn ddatblygu Pen-y-bont ar Ogwr yn lle gwell, a chreu mwy o gartrefi a lleoedd diogel a hapus lle gall ein cwsmeriaid ffynnu.”
Bydd Cyfle yn gweithio gyda ni dros y blynyddoedd nesaf, gan ymgysylltu â phartneriaid eraill yn ein cadwyn gyflenwi i ddatblygu’r cynllun a chreu cyfleoedd prentisiaeth i bobl o bob oedran, ar amrywiol gamau o’u bywydau.
Un o’r contractwyr sy’n cyflogi prentisiaid yn barod yw ASW Property Services – maent yn cynnig cymorth hanfodol i dimau crefftwyr presennol Cymoedd i’r Arfordir, ac yn ddiweddar cynigiont swydd barhaol i un o’u prentisiaid. Mae’r biblinell o waith a ddarparwn yn hanfodol i alluogi contractwyr fel ASW i gynnig cyfleoedd lleoliad gwaith i brentisiaid.
Esboniodd ein Partner Busnes Cymunedau a Masnachol, Rachel Lovell, sut mae’r cynllun nid yn unig yn helpu’r sefydliad, ond hefyd ein cwsmeriaid yn y gymuned ehangach.
“Mae cynlluniau prentisiaeth yn darparu hyfforddiant a swyddi i’n cwsmeriaid, ac maent hefyd yn cefnogi ein heconomi sylfaenol sy’n helpu i adfywio ein cymunedau lleol. Trwy gydweithio gyda rhanddeiliaid allanol i adeiladu’r seilwaith sy’n cefnogi’r fframwaith economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol, gallwn hefyd gefnogi’r economi sylfaenol a sicrhau bod y bunt yn aros ym Mhen-y-bont ar Ogwr.”